Burberry

6 05 2008

Wrth gwrs, dwi’n cydymdeimlo gyda’r gweithwyr Treorchy sy’ wedi colli eu swyddi. Gan mod i’n byw yn China, dwi hefyd yn gorfod cydymdeimlo gyda’r migrant workers yn y clip ‘ma, sy’ wedi gadael gartref, rhieni, plant, popeth er mwy chwilio am fywyd well. Mae’n anodd i bobl sy’ ddim wedi bod ‘na i ddychymygu jyst pa mor dlawd yw cefn gwlad China…



Mae’r gwanwyn yn dod…

19 03 2008

Noson gynnar ym mis Mawrth, gogledd Beijing.

Pwy yw’r dyn ‘na?…

mao-1.jpg

Dyn Uighur yn gwerthu cacen ar bwys y stryd:

pict0025.JPG

Machlud:
machlud.jpg

Goleuadau stryd
goleuadau.jpg



“Siop cig oen”

1 03 2008

Wel, es i mâs neithiwr, lawr i Houhai. Noson da iawn, er cymerodd hi oesoedd i gyrraedd y bar Lush, ble ‘on i gwrdd â Brooke – roedd y traffic hollol ofnadwy. Cymerais i tacsi o’r brifysgol, ond yn y diwedd roedd hi’n gyflymach i gerdded; doedd y tacsi jyst ddim yn symud!

Aethon ni lawr llinell 13 i Xizhimen, wedyn llinell 2 i Guloudajie. Tra fuom yn cerdded o Guloudajie lawr i lyn Houhai, welais i hwn, a roedd rhaid imi tynnu ffoto:

lamb-meat-shop.jpg

lamb-meat-shop-2.jpg

Dyma bwyty Uighur (rwy’n credu), ac – yn ôl Brooke, sy’n medru Mandarinyn dda iawn – enw’r bwyty yw “Siop Cig Oen”. Wel, yn y bôn, beth arall ydyn ni angen gwybod?

O – dymuniadau gorau i chi gyd ar Ŵyl Dewi Sant!



Mao a mi

29 02 2008

Ar bwys y prif porth, Prifysgol Amaethyddol China:



Cig Oen Cymreig i China?

27 02 2008

Mae’n diddorol iawn i ddarllen yn y Western Mail bod ffermwyr Cymru eisiau allforio cig oen Cymreig i China. Mae’n hollol wir bod y pobl yma yn bwyta mwy o gig – ‘na pam mae pris cig yn codi byd-eang.

Ond… ydyn nhw am fwyta cig oen? Hyd y gwn i, dyw’r Han ddim rili yn bwyta lot o gig oen. Maen nhw’n hoff iawn o gig moch, a chyw iâ…. Mae pysgod yn poblogiadd iawn – ffres iawn, wrth gwrs… Cig eidion i ryw adeg… ond cig oen?

Mae cig oen a mwton yn tueddu cael ei fwyta gan y lleifrifau ethnig, sef y Uighurs o Xinjiang, a’r Mongols, o Fongolia Mewnol…. ac wrth gwrs, maen nhw’n prynu eu cig o’u pobl eu hunain…

Nid wyf i am ddweud bod hi’n amhosib gwerthu cig oen Cymreig yn China; mae’r marchnad mor fawr, gall hyd yn oed darn bach prynu lot fawr o wyn! Dwi jyst yn meddwl taw  perswadio’r Han bwyta rhywbeth sy’ ddim yn newydd iddyn nhw, ond sy’ ddim yn poblogaidd iawn… dim yn hawdd, efallai. Bydd angen ymgyrch marchnata cryf iawn.

Wrth gwrs, dwi’n cyfarwydd gyda Gogledd China – efallai bydd y De yn fwy agored, lawr fan ‘na, maen nhw’n bwyta unrhywbeth!



Yma o hyd

27 02 2008

Dwi ddim wedi diflannu’n llwyr…

Doedd dim llawer o amser i bostio tra fues i’n paratoi i symud o Singapôr i Feijing. Aeth popeth yn iawn yn y diwedd – nes i imi cyrraedd ym maes awyr Beijing, fore dydd Sadwrn diwethaf… Fe gyrrhaeddais i 7:30 y bore… flinedig iawn, a ffindio’r tymherydd isel yn anodd iawn – brrrrr! Roedd rhywun i fod yna yn aros imi ond, ar ôl hanner awr o aros yn Arrivals, doedd neb wedi troi lân, felly cymerais i tacsi. Gwaetha’r modd, doedd gan y gyrrwr dim syniad ble o’n i am fynd, ac aethon ni ar daith o gwmpas Beijing…. A wel, cyrraeddais yn y diwedd.

Ers cyrraedd, pethau wedi bod yn brysur iawn, iawn, felly dwi ddim wedi mynd mâs lot, dim ond cwpl o weithiau i Wudaokou, sy’ jyst lan y stryd. Trwy cyd-digwyddiad, mae ffrind o 4 mlynedd yn ôl, Americanes, wedi cyrraedd ar yr un diwrnod; bydd hi yma am wythnos yn trefnu cynhadledd. Roedden ni ar yr un cwrs yma yn 2004, dysgu Mandarin sylfaenol. Yn ystod y cwrs, wnaeth hi a cyd-myfyriwr, bachan o Norway, dechrau canlyn – ar ôl i mi actio fel matchmaker – a maen nhw wedi prioi o’r diwedd y llynedd. Result!

Eniwê, nos wener, rydym yn bwriadu mynd lawr i Houhai, yng nghanol Hen Feijing, am noson mâs… rwy’n edrych ymlaen!

O ie… rwy’n gobeithio gwneud podcast arall cyn bo hir….



Ystyried Y Byd

19 02 2008

Croeso i chi i gyd, sy’ wedi cyrraedd yma ar ol darllen fy sylw ynglyn a mater ‘Y Byd’, ar flog Adam Price. O safbwynt busnes, rwy’n credu bod yr achos hwn yn diddorol iawn, a – hyd y gwelaf i – roedd cais Dyddiol Cyf yn problematic iawn. Dwi am sgwennu mwy am hwn… ond, efallai, bydd rhaid aros nes mod i wedi cyrraedd Beijing; mae amser yn brin iawn ar hyn o bryd!



Podcast #1: Yr alw o Feijing

3 02 2008

Rwy’n meddwl mod i am arbrofi ychydig bach – felly…. (drum roll, please…) dyma fy mhodcast gyntaf erioed!

Oce, nawr gallech clywed pa mor wael mae fy Nghymraeg wedi dod yn y pum mlynedd ers i mi gadael Cymru! Hefyd, wel, dwi eisiau lot mwy o ymarfer – ac yn bendant, mae’n rhaid imi pryn mic well!

Ond eniwe, rwy’n gobeithio gwneud hwn yn fwy aml, i roi gwbod i chi sut mae byw a gweithio yn Beijing…

Rhowch gwybod beth ‘ych chi’n meddwl!

 
icon for podpress  Yr Alw o Feijing [11:20m]: Play Now | Play in Popup | Download (67)



Fydd Cymru’r Alaska newydd?

29 01 2008

Neu, efallai, y Nunavut newydd?

Rwy newydd darllen erthygl yn yr Observer ar-lein, sy’n son am y Gulf Stream a sut mae’n debyg i methu oherywdd cynhesu byd-eang. Dwi wedi dilyn y pwnc hwn am gwpl o flynyddoedd, a dwi’n falch i weld fod e’n dod yn mainstream o’r diwedd.

Petai’r Gulf Stream yn methu, wrth gwrs, byddai Cymru mewn trafferth mawr. MAWR. Felly, dylai’r pleidiau yng Nghymru’n hysbys o, ac yn trafod, y pwnc llosg hwn – a beth i wneud amdano. Fydd gostwng ein allyriadau CO2 ddim yn helpu , oherwydd fydd effaithau’r allyriadau gorffenol yn parhau am degawdau.

Mae arallddewis ar gael – “deifio’r wybr”. Ysgrifennais am yr opsiwn hwn ar fy hen blog… Mae llawer o resymau dda i’w ystyried o ddifri.



Cip glou ar Y Mabinogi

23 01 2008

Hehe: diddorol iawn i weld sut mae pobl yn Korea yn dychmygu’r Cymry! Dyma cyflwyniad i fyd y gêm: