“Siop cig oen”

1 03 2008

Wel, es i mâs neithiwr, lawr i Houhai. Noson da iawn, er cymerodd hi oesoedd i gyrraedd y bar Lush, ble ‘on i gwrdd â Brooke - roedd y traffic hollol ofnadwy. Cymerais i tacsi o’r brifysgol, ond yn y diwedd roedd hi’n gyflymach i gerdded; doedd y tacsi jyst ddim yn symud!

Aethon ni lawr llinell 13 i Xizhimen, wedyn llinell 2 i Guloudajie. Tra fuom yn cerdded o Guloudajie lawr i lyn Houhai, welais i hwn, a roedd rhaid imi tynnu ffoto:

lamb-meat-shop.jpg

lamb-meat-shop-2.jpg

Dyma bwyty Uighur (rwy’n credu), ac - yn ôl Brooke, sy’n medru Mandarinyn dda iawn - enw’r bwyty yw “Siop Cig Oen”. Wel, yn y bôn, beth arall ydyn ni angen gwybod?

O - dymuniadau gorau i chi gyd ar Ŵyl Dewi Sant!



Cig Oen Cymreig i China?

27 02 2008

Mae’n diddorol iawn i ddarllen yn y Western Mail bod ffermwyr Cymru eisiau allforio cig oen Cymreig i China. Mae’n hollol wir bod y pobl yma yn bwyta mwy o gig - ‘na pam mae pris cig yn codi byd-eang.

Ond… ydyn nhw am fwyta cig oen? Hyd y gwn i, dyw’r Han ddim rili yn bwyta lot o gig oen. Maen nhw’n hoff iawn o gig moch, a chyw iâ…. Mae pysgod yn poblogiadd iawn - ffres iawn, wrth gwrs… Cig eidion i ryw adeg… ond cig oen?

Mae cig oen a mwton yn tueddu cael ei fwyta gan y lleifrifau ethnig, sef y Uighurs o Xinjiang, a’r Mongols, o Fongolia Mewnol…. ac wrth gwrs, maen nhw’n prynu eu cig o’u pobl eu hunain…

Nid wyf i am ddweud bod hi’n amhosib gwerthu cig oen Cymreig yn China; mae’r marchnad mor fawr, gall hyd yn oed darn bach prynu lot fawr o wyn! Dwi jyst yn meddwl taw  perswadio’r Han bwyta rhywbeth sy’ ddim yn newydd iddyn nhw, ond sy’ ddim yn poblogaidd iawn… dim yn hawdd, efallai. Bydd angen ymgyrch marchnata cryf iawn.

Wrth gwrs, dwi’n cyfarwydd gyda Gogledd China - efallai bydd y De yn fwy agored, lawr fan ‘na, maen nhw’n bwyta unrhywbeth!



Y Mabinogi - mynd i America efo… y Koreans?

22 01 2008

Yn ôl cylchgrawn Wired, mae cwmni o Korea wedi creu MMORPG newydd (oes gair Cymraeg am Massive Multiplayer Online Role-Playing Game?) o’r enw Mabinogi. Diddorol iawn. Ceir gweld yr erthygl yma: Nexon To Release Mabinogi In America.

Y broblem yw, fel arfer, dyw’r gêm ddim mewn gwirionedd wedi ei machludo yn y chwedl Cymreig; mae’n dweud: “the mythology won’t be a direct translation of the Celtic and Welsh traditions, but will instead be a Korean interpretation of these myths“. Hahaha, dwi’n lici o hynny! Chwedlau Cymru trwy lygaid Korea….

Eniwe, es i gael cip ar beth mae Wikipedia yn dweud am y gêm. Hmmm, not so good. Brin iawn yw enwau Cymraeg; mae’r rhan fwyau’n Gwyddelig.

Felly, unwaith eto, ‘dyn ni’n gweld bod Cymru’n hollol cack-handed ar hunan-marchnata!

Ta beth - mae MMORPGs yn massive yn Asia, a Korea yw un o’r marchnadau mwyaf. Dyma cyfle gwych i’r WTB - neu beth bynnag maen nhw’n galw eu hunain y dyddiau ‘ma - i ddechrau ymgyrch marchnata gyflym er mwyn denu twristiaid o Asia draw i ‘wlad Y Mabinogi‘.

Ha, dream on, gw’boi.

[Datganiad wasg gwreiddiol yma]