A all ‘Grand Theft Auto’ achub y cymoedd?
6 02 2009Tua flwyddyn yn ol, bues i’n darllen yr International Herald Tribune ar-lein pan welais i bod Luc Besson yn bwriadu adeiladu stiwdio ffilm jyst tu fas o Baris. Hmmm, medde fi, tybed beth sy’n digwydd yng Nghymru, rwy’n cofio rhyw fath o son ynglyn a stiwdio newydd yna hefyd.
Fe edrychais ar wefan Valleywood. Roedd yn edrych yn dda iawn, er nad oedd yna lot fawr o wybodaeth yna… Ar y pryd, nid o’n i wedi clywed o unrhyw broblem gyda’r prosiect ond fe roedd yna un peth fach iawn a oedd yn becso fi: roedd y cyfeirad e-bost dan “Contact Us” yn perthyn i aol.com… Big oops, doedd hynny ddim yn edrych yn dda iawn gwbl – na ddylai prosiect mawr fel’na yn defnyddio parth amateur fel aol!
Wrth gwrs, erbyn hyn, mae’n edrych yn sicr bod y prosiect yn farw – ac, i fod yn onest, rwy’n falch. Pam? Wrth gwrs, hoffwn i weld swyddi newydd yn yr ardal… ondd nid oedd hwnna y ffordd i wneud e, i fod yn honest.
Fel arfer, roedd Caerdydd yn chwilio am fuddsoddiad o tu allan i Gymru. Byddai’r gwaith wedi dod o tu allan i Gymru. Am sicr, byddai unrhyw elw wedi aros tu allan i Gymru. Sut fath o swyddi fyddai’r prosiect wedi creu? Mwy na thebyg, byddai llawe iawn o’r withwyr hefyd wedi dod o tu allan i Gymru.
Dyma problem #1: mae’r WDA (a oedd) a bellach y WAG wedi edrych i’r tu fas, chwilio am farchog ar geffyl gwyn I ddod a shedload o arian ini. Dyw h ddim yn mynd i ddigwydd. Sori.
Problem #2: does dim lot o fanteision ‘da ni. Rwy wedi clywed gormod o bobl yn datgan X Cymru yw gorau’r byd”, for a given value of X. Bullshit. Mae rhan fwya ohonon nhw’n hollol anwybyddol o be’ sy’n digwydd tramor ac yn arbennig am Asia – China, Korea, Singapore ayyb.
So, pa fanteision sydd? Wel, rhai traddodiadol iawn:y celfyddydau. Storiau. Cerddoriaeth. Actio. Mae llu o fandiau ar gael yng Nghymru. Mae llawer iawn o actorion. Does na dim prinder o bobl sy’ eisiau ysgrifennu dramau. Ond sut gallen ni fanteisio ar y talent sydd ar gael? Mae un peth yn sicr: dwi ddim yn credu fydden nhw wedi elwa o Valleywood. OND: dyma’r fath o sgiliau sydd yn wethfawr yn yr economi fyd-eang.
Yn lle twlu arian at prosiectau mawr o tu allan, hoffwn i weld buddsoddiad mawr i hybu machinima yn y cymoedd. Beth yw machinima? Haha, cwestiwn da:
Nawr, mae’n 6 mlynedd ers im byw yng Nghymru, a mae’n bosib bod agweddau tug at gemau cyfrifiaduron wedi newid ers hynny. Ond, hyd y gwn i, fe fyddai lot fawr o’r bobl lawr yn Bae yn teimlo bod bod gemau’n wastraff o amser, neu rhywbeth gwamal – os nad ydynt yn achosi trais a pob fath o drosedd! Y ffaith yw, mae gemau cyfrifiaduron y darparu byd llawn cymeriadau a lleoliadau – yn y cartref. Gall unrhywun sgwennu sgript, cyfarwyddo camerau, dewis cerddoriaeth, a chreu ffilm – yn rhad! Enw’r fath ‘ma o ffilm: machinima. Oes werth creadigol yn y fath ‘ma o ffilm. Oes:
Ydy’r fath ‘ma o ffilm yn gallu fod yn poblogaidd fyd-eang, ac yn gwneud elw? Gallai: gweler er enghraifft, y cyfres comedi Red vs Blue, a ddosbarthwyd yn wrieddiol ar y we. Erbyn hyn, mae’n llwyddanus iawn ac ar gael ar DVD – oherywdd cryfder y sgript a’r stori… Sample episode:
Yn diweddar, roedd yr economist Dylan Jnes-Evans yn gofyn pa wersi all Cymru dysgu o Singapore. Bydd rhaid imi sgwennu ateb rhywbyd arall OND mae ‘na un peth i ystyried nawr: mae Singapore yn hyrwyddo machinima fel cyfrwyng a diwydiant y dyfodol….
12 – 13 December 2008
Machinima Symposium 08
The first ever Machinima Symposium convenes in Singapore, featuring international machinima thought leaders and artists in this two full-day event. Distinguished speakers from the fields of gaming, virtual worlds and interactive television will share their views on how machinima would evolve in their fields and the opportunities they represent.
Mae Singapore hefyd yn cyd-weithio gyda llywodraeth dinas Wuhan (pop: 9.1 miliwn) yn China er mwyn datblygu diwydiant Asiadd Machinima. Food for thought, efallai.
So, be’ licwn i weld yng Nhgymru? Dyna post arall…
Categories : Asia, Cymru, Dawn creadigol, E-gemau, Economi








Recent Comments