Cip glou ar Y Mabinogi
23 01 2008Hehe: diddorol iawn i weld sut mae pobl yn Korea yn dychmygu’r Cymry! Dyma cyflwyniad i fyd y gêm:
Categories : Chwedlau Cymru, E-gemau, Korea
Hehe: diddorol iawn i weld sut mae pobl yn Korea yn dychmygu’r Cymry! Dyma cyflwyniad i fyd y gêm:
Yn ôl cylchgrawn Wired, mae cwmni o Korea wedi creu MMORPG newydd (oes gair Cymraeg am Massive Multiplayer Online Role-Playing Game?) o’r enw Mabinogi. Diddorol iawn. Ceir gweld yr erthygl yma: Nexon To Release Mabinogi In America.
Y broblem yw, fel arfer, dyw’r gêm ddim mewn gwirionedd wedi ei machludo yn y chwedl Cymreig; mae’n dweud: “the mythology won’t be a direct translation of the Celtic and Welsh traditions, but will instead be a Korean interpretation of these myths“. Hahaha, dwi’n lici o hynny! Chwedlau Cymru trwy lygaid Korea….
Eniwe, es i gael cip ar beth mae Wikipedia yn dweud am y gêm. Hmmm, not so good. Brin iawn yw enwau Cymraeg; mae’r rhan fwyau’n Gwyddelig.
Felly, unwaith eto, ‘dyn ni’n gweld bod Cymru’n hollol cack-handed ar hunan-marchnata!
Ta beth - mae MMORPGs yn massive yn Asia, a Korea yw un o’r marchnadau mwyaf. Dyma cyfle gwych i’r WTB - neu beth bynnag maen nhw’n galw eu hunain y dyddiau ‘ma - i ddechrau ymgyrch marchnata gyflym er mwyn denu twristiaid o Asia draw i ‘wlad Y Mabinogi‘.
Ha, dream on, gw’boi.
[Datganiad wasg gwreiddiol yma]
Recent Comments