Yma o hyd

27 02 2008

Dwi ddim wedi diflannu’n llwyr…

Doedd dim llawer o amser i bostio tra fues i’n paratoi i symud o Singapôr i Feijing. Aeth popeth yn iawn yn y diwedd - nes i imi cyrraedd ym maes awyr Beijing, fore dydd Sadwrn diwethaf… Fe gyrrhaeddais i 7:30 y bore… flinedig iawn, a ffindio’r tymherydd isel yn anodd iawn - brrrrr! Roedd rhywun i fod yna yn aros imi ond, ar ôl hanner awr o aros yn Arrivals, doedd neb wedi troi lân, felly cymerais i tacsi. Gwaetha’r modd, doedd gan y gyrrwr dim syniad ble o’n i am fynd, ac aethon ni ar daith o gwmpas Beijing…. A wel, cyrraeddais yn y diwedd.

Ers cyrraedd, pethau wedi bod yn brysur iawn, iawn, felly dwi ddim wedi mynd mâs lot, dim ond cwpl o weithiau i Wudaokou, sy’ jyst lan y stryd. Trwy cyd-digwyddiad, mae ffrind o 4 mlynedd yn ôl, Americanes, wedi cyrraedd ar yr un diwrnod; bydd hi yma am wythnos yn trefnu cynhadledd. Roedden ni ar yr un cwrs yma yn 2004, dysgu Mandarin sylfaenol. Yn ystod y cwrs, wnaeth hi a cyd-myfyriwr, bachan o Norway, dechrau canlyn - ar ôl i mi actio fel matchmaker - a maen nhw wedi prioi o’r diwedd y llynedd. Result!

Eniwê, nos wener, rydym yn bwriadu mynd lawr i Houhai, yng nghanol Hen Feijing, am noson mâs… rwy’n edrych ymlaen!

O ie… rwy’n gobeithio gwneud podcast arall cyn bo hir….



Ystyried Y Byd

19 02 2008

Croeso i chi i gyd, sy’ wedi cyrraedd yma ar ol darllen fy sylw ynglyn a mater ‘Y Byd’, ar flog Adam Price. O safbwynt busnes, rwy’n credu bod yr achos hwn yn diddorol iawn, a - hyd y gwelaf i - roedd cais Dyddiol Cyf yn problematic iawn. Dwi am sgwennu mwy am hwn… ond, efallai, bydd rhaid aros nes mod i wedi cyrraedd Beijing; mae amser yn brin iawn ar hyn o bryd!



Podcast #1: Yr alw o Feijing

3 02 2008

Rwy’n meddwl mod i am arbrofi ychydig bach - felly…. (drum roll, please…) dyma fy mhodcast gyntaf erioed!

Oce, nawr gallech clywed pa mor wael mae fy Nghymraeg wedi dod yn y pum mlynedd ers i mi gadael Cymru! Hefyd, wel, dwi eisiau lot mwy o ymarfer - ac yn bendant, mae’n rhaid imi pryn mic well!

Ond eniwe, rwy’n gobeithio gwneud hwn yn fwy aml, i roi gwbod i chi sut mae byw a gweithio yn Beijing…

Rhowch gwybod beth ‘ych chi’n meddwl!

 
icon for podpress  Yr Alw o Feijing [11:20m]: Play Now | Play in Popup | Download (43)



Dyma’r un gyntaf

20 01 2008

OK, tipyn o arbrawf yw hwn. Dwi ddim yn siwr os fyddai’n gallu ysgrifennu am fwy na ddiwrnod neu deu… ond, wel, cawn ni weld…