Cymdeithas sy’n ymagor vs cymdeithas sy’n ymgau

2 09 2008

Diddorol i ddarllen erthygl ar wefan cylchgrawn Time… Mae’n sôn am yr awyr yma ym Meijing, a sut mae hi wedi bod yn lân iawn yn ystod yr Olympics. Er mwyn clirio’r awyr, fe osododd y llwyodraeth llu o gyfyngiadau ar draffig a dywydiant yn y dinas a’i gylch. Unwaith y Paralympics wedi bennu, mae’n debyg bydd y cyfyngiadau yn cael eu codi - a bydd yr awyr yn frwnt unwaith eto. Ond… a fydd hi? Y peth mwya’ diddorol yn yr erthygl yw hwn:

The state-run Xinhua News Service reported that more than 400,000 people have “joined an online discussion” about the future of the car ban. In a survey on Xinhua’s website, more than half the respondents indicated they’d support permanent restrictions. Web surveys are notoriously unreliable, but the results at least indicate some support for further steps to improve Beijing’s air.

Dyma un engraifft o’r trafodaeth mawr sydd yn mynd ymlaen ar-lein yma yn China. Mae blogs a bulletin boards yn bywiog iawn, ac yn dangos bod ‘na cymdeithas sifil cryf iawn yn datblygu, o’r waelod i fyny… Hynny yw, mae pobl eisiau cadw’r awyr iach, a mae’n debyg y bydd y llywodraeth yn gwrando arnyn nhw. Mae cymdeithas yn China yn ymagoru, am sicr. Gweler hefyd China’s iron Olympic grip starts to slip a Chinese audit cites widespread misuse of government funds.

Meanwhile, back in the UK: cynghorau lleol yn talu pobl i spïo ar eu cymdogion?



‘Saith Blake’ newydd

6 05 2008

Rwy’n darllen yn y Grauniad fe fydd fersiwn newydd o “Blake’s 7″, efallai. Gwych! Roedd y fersiwn gwreiddiol “teledu angenrheidiol” pan fues i’n crwtyn, a roedd y soundtrack y 7″ vinyl gyntaf prynais i erioed! (Say it out, say it loud, I’m a geek and I’m proud…)

Wrth gwrs, fyddai ddim yn gallu gwylio’r fersiwn newydd yma ym Meijing… neu efallai, ar y llaw arall, byddai’n gallu ei prynu ar DVD dodgy am RMB 8 ar y strydoedd yma hyd yn oed cyn iddi cael ei darlledu! Mae’r dau yn bosib…



Mae’r gwanwyn yn dod…

19 03 2008

Noson gynnar ym mis Mawrth, gogledd Beijing.

Pwy yw’r dyn ‘na?…

mao-1.jpg

Dyn Uighur yn gwerthu cacen ar bwys y stryd:

pict0025.JPG

Machlud:
machlud.jpg

Goleuadau stryd
goleuadau.jpg



“Siop cig oen”

1 03 2008

Wel, es i mâs neithiwr, lawr i Houhai. Noson da iawn, er cymerodd hi oesoedd i gyrraedd y bar Lush, ble ‘on i gwrdd â Brooke - roedd y traffic hollol ofnadwy. Cymerais i tacsi o’r brifysgol, ond yn y diwedd roedd hi’n gyflymach i gerdded; doedd y tacsi jyst ddim yn symud!

Aethon ni lawr llinell 13 i Xizhimen, wedyn llinell 2 i Guloudajie. Tra fuom yn cerdded o Guloudajie lawr i lyn Houhai, welais i hwn, a roedd rhaid imi tynnu ffoto:

lamb-meat-shop.jpg

lamb-meat-shop-2.jpg

Dyma bwyty Uighur (rwy’n credu), ac - yn ôl Brooke, sy’n medru Mandarinyn dda iawn - enw’r bwyty yw “Siop Cig Oen”. Wel, yn y bôn, beth arall ydyn ni angen gwybod?

O - dymuniadau gorau i chi gyd ar Ŵyl Dewi Sant!



Mao a mi

29 02 2008

Ar bwys y prif porth, Prifysgol Amaethyddol China:



Yma o hyd

27 02 2008

Dwi ddim wedi diflannu’n llwyr…

Doedd dim llawer o amser i bostio tra fues i’n paratoi i symud o Singapôr i Feijing. Aeth popeth yn iawn yn y diwedd - nes i imi cyrraedd ym maes awyr Beijing, fore dydd Sadwrn diwethaf… Fe gyrrhaeddais i 7:30 y bore… flinedig iawn, a ffindio’r tymherydd isel yn anodd iawn - brrrrr! Roedd rhywun i fod yna yn aros imi ond, ar ôl hanner awr o aros yn Arrivals, doedd neb wedi troi lân, felly cymerais i tacsi. Gwaetha’r modd, doedd gan y gyrrwr dim syniad ble o’n i am fynd, ac aethon ni ar daith o gwmpas Beijing…. A wel, cyrraeddais yn y diwedd.

Ers cyrraedd, pethau wedi bod yn brysur iawn, iawn, felly dwi ddim wedi mynd mâs lot, dim ond cwpl o weithiau i Wudaokou, sy’ jyst lan y stryd. Trwy cyd-digwyddiad, mae ffrind o 4 mlynedd yn ôl, Americanes, wedi cyrraedd ar yr un diwrnod; bydd hi yma am wythnos yn trefnu cynhadledd. Roedden ni ar yr un cwrs yma yn 2004, dysgu Mandarin sylfaenol. Yn ystod y cwrs, wnaeth hi a cyd-myfyriwr, bachan o Norway, dechrau canlyn - ar ôl i mi actio fel matchmaker - a maen nhw wedi prioi o’r diwedd y llynedd. Result!

Eniwê, nos wener, rydym yn bwriadu mynd lawr i Houhai, yng nghanol Hen Feijing, am noson mâs… rwy’n edrych ymlaen!

O ie… rwy’n gobeithio gwneud podcast arall cyn bo hir….