Geiriaduron Cymraeg

6 09 2008

Dwi wedi bod yn chwilio am eiriadur Cymraeg newydd yn diweddar. Am ryw rheswm, dim clem pam, mae ‘na llawer iawn ar gael yn Asia….

Kinokuniya, Orchard Road, Singapore:

(File between Urdu & Vietnamese…)

Friendship Store, Beijing, China:

(Dau gwahanol geiriadur Cymraeg yma…)

Xidan Bookstore, Beijing, China:

Dwi hefyd wedi gweld geiriadurion a llyfrau ramadeg Cymraeg yn Borders, ar Orchard Road, Singapore.

Pam ydy geiriaduron Cymraeg mor cyffredin byd-eang?

A pam ydyn nhw mor wael? Hyd yn oed y rhai a gyhoeddwyd rhwn 2001 a 2006 ddim yn cynnwys termau fel SMS, neu ‘multi-media’. Termau braidd yn pwysig y dyddiau ‘ma…



Cig Oen Cymreig i China?

27 02 2008

Mae’n diddorol iawn i ddarllen yn y Western Mail bod ffermwyr Cymru eisiau allforio cig oen Cymreig i China. Mae’n hollol wir bod y pobl yma yn bwyta mwy o gig - ‘na pam mae pris cig yn codi byd-eang.

Ond… ydyn nhw am fwyta cig oen? Hyd y gwn i, dyw’r Han ddim rili yn bwyta lot o gig oen. Maen nhw’n hoff iawn o gig moch, a chyw iâ…. Mae pysgod yn poblogiadd iawn - ffres iawn, wrth gwrs… Cig eidion i ryw adeg… ond cig oen?

Mae cig oen a mwton yn tueddu cael ei fwyta gan y lleifrifau ethnig, sef y Uighurs o Xinjiang, a’r Mongols, o Fongolia Mewnol…. ac wrth gwrs, maen nhw’n prynu eu cig o’u pobl eu hunain…

Nid wyf i am ddweud bod hi’n amhosib gwerthu cig oen Cymreig yn China; mae’r marchnad mor fawr, gall hyd yn oed darn bach prynu lot fawr o wyn! Dwi jyst yn meddwl taw  perswadio’r Han bwyta rhywbeth sy’ ddim yn newydd iddyn nhw, ond sy’ ddim yn poblogaidd iawn… dim yn hawdd, efallai. Bydd angen ymgyrch marchnata cryf iawn.

Wrth gwrs, dwi’n cyfarwydd gyda Gogledd China - efallai bydd y De yn fwy agored, lawr fan ‘na, maen nhw’n bwyta unrhywbeth!



Podcast #1: Yr alw o Feijing

3 02 2008

Rwy’n meddwl mod i am arbrofi ychydig bach - felly…. (drum roll, please…) dyma fy mhodcast gyntaf erioed!

Oce, nawr gallech clywed pa mor wael mae fy Nghymraeg wedi dod yn y pum mlynedd ers i mi gadael Cymru! Hefyd, wel, dwi eisiau lot mwy o ymarfer - ac yn bendant, mae’n rhaid imi pryn mic well!

Ond eniwe, rwy’n gobeithio gwneud hwn yn fwy aml, i roi gwbod i chi sut mae byw a gweithio yn Beijing…

Rhowch gwybod beth ‘ych chi’n meddwl!

 
icon for podpress  Yr Alw o Feijing [11:20m]: Play Now | Play in Popup | Download (43)



Y Mabinogi - mynd i America efo… y Koreans?

22 01 2008

Yn ôl cylchgrawn Wired, mae cwmni o Korea wedi creu MMORPG newydd (oes gair Cymraeg am Massive Multiplayer Online Role-Playing Game?) o’r enw Mabinogi. Diddorol iawn. Ceir gweld yr erthygl yma: Nexon To Release Mabinogi In America.

Y broblem yw, fel arfer, dyw’r gêm ddim mewn gwirionedd wedi ei machludo yn y chwedl Cymreig; mae’n dweud: “the mythology won’t be a direct translation of the Celtic and Welsh traditions, but will instead be a Korean interpretation of these myths“. Hahaha, dwi’n lici o hynny! Chwedlau Cymru trwy lygaid Korea….

Eniwe, es i gael cip ar beth mae Wikipedia yn dweud am y gêm. Hmmm, not so good. Brin iawn yw enwau Cymraeg; mae’r rhan fwyau’n Gwyddelig.

Felly, unwaith eto, ‘dyn ni’n gweld bod Cymru’n hollol cack-handed ar hunan-marchnata!

Ta beth - mae MMORPGs yn massive yn Asia, a Korea yw un o’r marchnadau mwyaf. Dyma cyfle gwych i’r WTB - neu beth bynnag maen nhw’n galw eu hunain y dyddiau ‘ma - i ddechrau ymgyrch marchnata gyflym er mwyn denu twristiaid o Asia draw i ‘wlad Y Mabinogi‘.

Ha, dream on, gw’boi.

[Datganiad wasg gwreiddiol yma]