Cymru: rhan o pa byd?
3 09 2008Gan mod i’n byw ym Meijing, mae’n bosib taw pobl nôl yng Ngyhmru wedi cael y trafodaeth ‘ma a dwi wedi colli’r oll… Eniwê…
Sut dylai pobl Cymru, a’r ‘Seneddwyr’ yn arbennig, ystyried Cymru? Gan bod y Senedd yn bodoli, rydym felly yn uned economiadd a gwleidyddol ar wahân i weddill Prydain. Mae nashis eisiau hyd yn oed mwy o annibynniaeth, mae rhai pobl eisiau mynd yn ôl i’r hen dyddiau a, wel,, mae ‘na lot o bobl sy’ ddim yn gwybod.
Beth bynnag, ’swn i’n dyfalu bod y rhan fwya o bobl Cymru yn teimlo bod Cymru’n rhan o’r First World - ond, ydyn ni? Pan wi’n darllen erthyglau fel hon yn y Western Mail, mae’n anodd iawn, iawn imi credu… Ond, er gwaethau’r ffeithiau, rwy wedi colli trac o’r nifer o bobl dwi wedi clywed yn dweud taw “[Llenwch y bwlch] Cymreig ydy gorau’ byd!” Os felly, pam ydyn ni mor dlawd ac yn anghystedleol?
Efallai mae’n amser i ni dweud: mae’r UK yn First World ond, fel uned economaidd, dyw Cymru ddim. Rydym yn ‘developing economy‘, a ‘dan ni’n mynd i ddatblygu strategaethau economiadd yr y sail yna.
Wrths gwrs, pan rydym am drafod pynciau economaidd, mae’n rhaid cael y niferau’n iawn - a mae’n rhaid imi cyfadde, does gen i ddim ohonyn nhw? Oes ‘na unrhywun sy’n gwybod ble mae Cymru ar y Human Development Index, a sut ‘dan ni’n cymharu i wledydd eraill?
Eniwê, dwy peth arall a welais i ddoe:
- Western Mail: the value of the methane field in South Wales could run into billions of pounds
- The Independent: Independent Scotland could have been richer than England.
Wait…








Recent Comments