Burberry
6 05 2008Wrth gwrs, dwi’n cydymdeimlo gyda’r gweithwyr Treorchy sy’ wedi colli eu swyddi. Gan mod i’n byw yn China, dwi hefyd yn gorfod cydymdeimlo gyda’r migrant workers yn y clip ‘ma, sy’ wedi gadael gartref, rhieni, plant, popeth er mwy chwilio am fywyd well. Mae’n anodd i bobl sy’ ddim wedi bod ‘na i ddychymygu jyst pa mor dlawd yw cefn gwlad China…








Gyda llaw, ges i’r clip o fan hyn: http://current.com/items/88912434_burberry_hits_china
Clip difyr. Mae llawer o raglenni ar y teledu yma ar hyn o bryd yn adrodd hanes y gweithwyr druan yn Tseina ac India - un yw Blood, Sweat and T-shirts (ond efallai nad wyt yn gallu ymweld â gwefan y BBC). Dwi’nmeddwl bod pobl yn araf bach yn sylweddoli sut mae prisiau mor isel. Roedd yr ymgyrch i gadw Burberry yng Nghymru yn amhosib i’w ennill ac mae’n swnion sinigaidd dros ben, ond cred llawer yw yr oedd yr AS ac AC lleol yn defnyddio’r ymgyrch i greu cyhoeddusrwydd i nhw eu hunain.
Diolch yn fawr am bostio’r clip ynglyn â Burburry. Athro Tsieinëeg (ym Mhrifysgol Bolitechnegol València, Sbaen) ydw i, ac mae’r clip yn berffaith i’m myfyrwyr. Mae Beijing wedi newid cryn dipyn ers i mi fyw yno ym 1980!!!
Rwy’m falch i glywed fod e’n defnyddiol!
Diddorol - Cymro Cymraeg, sy’n dysgu Mandarin yn Sbaen… mae’n swnio fel mae ‘na hanes o ryw fath yna! Ble fuest ti’n astudio ym Meijing? Beida?
Rwy’n falch i glywed fod e’n defnyddiol!
Diddorol - Cymro Cymraeg, sy’n dysgu Mandarin yn Sbaen… mae’n swnio fel mae ‘na hanes o ryw fath yna! Ble fuest ti’n astudio ym Meijing? Beida?