‘Saith Blake’ newydd

6 05 2008

Rwy’n darllen yn y Grauniad fe fydd fersiwn newydd o “Blake’s 7″, efallai. Gwych! Roedd y fersiwn gwreiddiol “teledu angenrheidiol” pan fues i’n crwtyn, a roedd y soundtrack y 7″ vinyl gyntaf prynais i erioed! (Say it out, say it loud, I’m a geek and I’m proud…)

Wrth gwrs, fyddai ddim yn gallu gwylio’r fersiwn newydd yma ym Meijing… neu efallai, ar y llaw arall, byddai’n gallu ei prynu ar DVD dodgy am RMB 8 ar y strydoedd yma hyd yn oed cyn iddi cael ei darlledu! Mae’r dau yn bosib…



Burberry

6 05 2008

Wrth gwrs, dwi’n cydymdeimlo gyda’r gweithwyr Treorchy sy’ wedi colli eu swyddi. Gan mod i’n byw yn China, dwi hefyd yn gorfod cydymdeimlo gyda’r migrant workers yn y clip ‘ma, sy’ wedi gadael gartref, rhieni, plant, popeth er mwy chwilio am fywyd well. Mae’n anodd i bobl sy’ ddim wedi bod ‘na i ddychymygu jyst pa mor dlawd yw cefn gwlad China…