“Siop cig oen”
1 03 2008Wel, es i mâs neithiwr, lawr i Houhai. Noson da iawn, er cymerodd hi oesoedd i gyrraedd y bar Lush, ble ‘on i gwrdd â Brooke - roedd y traffic hollol ofnadwy. Cymerais i tacsi o’r brifysgol, ond yn y diwedd roedd hi’n gyflymach i gerdded; doedd y tacsi jyst ddim yn symud!
Aethon ni lawr llinell 13 i Xizhimen, wedyn llinell 2 i Guloudajie. Tra fuom yn cerdded o Guloudajie lawr i lyn Houhai, welais i hwn, a roedd rhaid imi tynnu ffoto:


Dyma bwyty Uighur (rwy’n credu), ac - yn ôl Brooke, sy’n medru Mandarinyn dda iawn - enw’r bwyty yw “Siop Cig Oen”. Wel, yn y bôn, beth arall ydyn ni angen gwybod?
O - dymuniadau gorau i chi gyd ar Ŵyl Dewi Sant!








Mmmmm…. dw i ddim isio gweld llun wyn bach del pan fwyta i gig oen…..