Yma o hyd
27 02 2008Dwi ddim wedi diflannu’n llwyr…
Doedd dim llawer o amser i bostio tra fues i’n paratoi i symud o Singapôr i Feijing. Aeth popeth yn iawn yn y diwedd - nes i imi cyrraedd ym maes awyr Beijing, fore dydd Sadwrn diwethaf… Fe gyrrhaeddais i 7:30 y bore… flinedig iawn, a ffindio’r tymherydd isel yn anodd iawn - brrrrr! Roedd rhywun i fod yna yn aros imi ond, ar ôl hanner awr o aros yn Arrivals, doedd neb wedi troi lân, felly cymerais i tacsi. Gwaetha’r modd, doedd gan y gyrrwr dim syniad ble o’n i am fynd, ac aethon ni ar daith o gwmpas Beijing…. A wel, cyrraeddais yn y diwedd.
Ers cyrraedd, pethau wedi bod yn brysur iawn, iawn, felly dwi ddim wedi mynd mâs lot, dim ond cwpl o weithiau i Wudaokou, sy’ jyst lan y stryd. Trwy cyd-digwyddiad, mae ffrind o 4 mlynedd yn ôl, Americanes, wedi cyrraedd ar yr un diwrnod; bydd hi yma am wythnos yn trefnu cynhadledd. Roedden ni ar yr un cwrs yma yn 2004, dysgu Mandarin sylfaenol. Yn ystod y cwrs, wnaeth hi a cyd-myfyriwr, bachan o Norway, dechrau canlyn - ar ôl i mi actio fel matchmaker - a maen nhw wedi prioi o’r diwedd y llynedd. Result!
Eniwê, nos wener, rydym yn bwriadu mynd lawr i Houhai, yng nghanol Hen Feijing, am noson mâs… rwy’n edrych ymlaen!
O ie… rwy’n gobeithio gwneud podcast arall cyn bo hir….








Recent Comments