Podcast #1: Yr alw o Feijing
3 02 2008Rwy’n meddwl mod i am arbrofi ychydig bach - felly…. (drum roll, please…) dyma fy mhodcast gyntaf erioed!
Oce, nawr gallech clywed pa mor wael mae fy Nghymraeg wedi dod yn y pum mlynedd ers i mi gadael Cymru! Hefyd, wel, dwi eisiau lot mwy o ymarfer - ac yn bendant, mae’n rhaid imi pryn mic well!
Ond eniwe, rwy’n gobeithio gwneud hwn yn fwy aml, i roi gwbod i chi sut mae byw a gweithio yn Beijing…
Rhowch gwybod beth ‘ych chi’n meddwl!









Diolch am y Podlediad mae’n ddifyr iawn - gobeithio y cei di gyfle i wneud mwy yn y dyfodol. Mae’n braf cael clywed am brofiadau pobl cyffredin draw yn Tseina ac hefyd by farn am obeithion hybwyr cig Cymru yn y wlad.
Soniaist dy fod wedi bod yn ymwenud â lleoleiddio meddalwedd. Dwi ddim yn berson technegol ofnadwy, ond dwi gyda diddordeb mewr mewn lleoleiddio , ac yn aelod o ‘Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg, sy’n ceisio hybu meddalwedd Cymraeg sydd ar gael yn barod ac annog eraill i ddatblygu rhai gwreiddiol yn Gymraeg yn ogystal a chyfieithu rhai presenol. Byddai’n dda clywed am dy brofiadau di o safbwynt ieithoedd y Dwyrain pell - dychmygaf fob mwy o issues acw oherwydd y gwahanol sgript?
O.N. diolch am newid y broses gadael sylwadau
Hi Rhys,
Rwy’n falch fod ti’n ffindio rhywbeth o ddiddordeb yma!
Roedd lot o fy waith yma ym maes e-addysg - sef, rili, cyhoeddi. Y prif ffordd i mi weithio gyda’r ieithoedd gwahanol oedd i greu fframwaith XML ar gyfer bob dogfen; gallwn i cadw’r strwythur logical, ond gadael i’r cyfieithwyr ysgrifennu’r cynnwys tu fewn i bob ‘container’. (Yn yr achos yna, fe roedd ‘master document’ Saesneg).
Wrth gwrs, mae ‘na lot o issues eraill; os wyt a ddiddordeb, ’swn i wir yn awgrymu trio cael dy ddwylo ar gopi o lyfr Ken Lunde: CJKV Information Processing.
Mae ‘na hefyd blog diddorol gan Richard Ishida, sy’n trafod I18n.
DIolch am y ddolen. Mae braidd rhy dechnegol i fi ond mae’r pynciau dan sylw o ddiddordeb. Mae Daniel Cunliffe o Brifysgol Morgannwg yn gwneud tipyn o ymchwil i aml-ieithrwydd ar y we, a’r defnydd o ieithoedd lleafrifol yn gyffredinol - byddai hwn o ddefnyddi iddo fo dwi’n siwr.