Fydd Cymru’r Alaska newydd?
29 01 2008Neu, efallai, y Nunavut newydd?
Rwy newydd darllen erthygl yn yr Observer ar-lein, sy’n son am y Gulf Stream a sut mae’n debyg i methu oherywdd cynhesu byd-eang. Dwi wedi dilyn y pwnc hwn am gwpl o flynyddoedd, a dwi’n falch i weld fod e’n dod yn mainstream o’r diwedd.
Petai’r Gulf Stream yn methu, wrth gwrs, byddai Cymru mewn trafferth mawr. MAWR. Felly, dylai’r pleidiau yng Nghymru’n hysbys o, ac yn trafod, y pwnc llosg hwn - a beth i wneud amdano. Fydd gostwng ein allyriadau CO2 ddim yn helpu , oherwydd fydd effaithau’r allyriadau gorffenol yn parhau am degawdau.
Mae arallddewis ar gael - “deifio’r wybr”. Ysgrifennais am yr opsiwn hwn ar fy hen blog… Mae llawer o resymau dda i’w ystyried o ddifri.








Recent Comments