Y Mabinogi - mynd i America efo… y Koreans?

22 01 2008

Yn ôl cylchgrawn Wired, mae cwmni o Korea wedi creu MMORPG newydd (oes gair Cymraeg am Massive Multiplayer Online Role-Playing Game?) o’r enw Mabinogi. Diddorol iawn. Ceir gweld yr erthygl yma: Nexon To Release Mabinogi In America.

Y broblem yw, fel arfer, dyw’r gêm ddim mewn gwirionedd wedi ei machludo yn y chwedl Cymreig; mae’n dweud: “the mythology won’t be a direct translation of the Celtic and Welsh traditions, but will instead be a Korean interpretation of these myths“. Hahaha, dwi’n lici o hynny! Chwedlau Cymru trwy lygaid Korea….

Eniwe, es i gael cip ar beth mae Wikipedia yn dweud am y gêm. Hmmm, not so good. Brin iawn yw enwau Cymraeg; mae’r rhan fwyau’n Gwyddelig.

Felly, unwaith eto, ‘dyn ni’n gweld bod Cymru’n hollol cack-handed ar hunan-marchnata!

Ta beth - mae MMORPGs yn massive yn Asia, a Korea yw un o’r marchnadau mwyaf. Dyma cyfle gwych i’r WTB - neu beth bynnag maen nhw’n galw eu hunain y dyddiau ‘ma - i ddechrau ymgyrch marchnata gyflym er mwyn denu twristiaid o Asia draw i ‘wlad Y Mabinogi‘.

Ha, dream on, gw’boi.

[Datganiad wasg gwreiddiol yma]


Actions

Informations

One response to “Y Mabinogi - mynd i America efo… y Koreans?”

1 03 2008
asuka (23:12:29) :

waw - diolch am bostio hyn! mae’r gêm yn edrych yn ddifyr iawn - ysu rwy am weld rhagor. (rwy’n dwlu ar y darn yn erthygl wicipedia am arferion bwyta’r cymeriadau!)

Leave a comment

You can use these tags : <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>