Fydd Cymru’r Alaska newydd?

29 01 2008

Neu, efallai, y Nunavut newydd?

Rwy newydd darllen erthygl yn yr Observer ar-lein, sy’n son am y Gulf Stream a sut mae’n debyg i methu oherywdd cynhesu byd-eang. Dwi wedi dilyn y pwnc hwn am gwpl o flynyddoedd, a dwi’n falch i weld fod e’n dod yn mainstream o’r diwedd.

Petai’r Gulf Stream yn methu, wrth gwrs, byddai Cymru mewn trafferth mawr. MAWR. Felly, dylai’r pleidiau yng Nghymru’n hysbys o, ac yn trafod, y pwnc llosg hwn - a beth i wneud amdano. Fydd gostwng ein allyriadau CO2 ddim yn helpu , oherwydd fydd effaithau’r allyriadau gorffenol yn parhau am degawdau.

Mae arallddewis ar gael - “deifio’r wybr”. Ysgrifennais am yr opsiwn hwn ar fy hen blog… Mae llawer o resymau dda i’w ystyried o ddifri.



Cip glou ar Y Mabinogi

23 01 2008

Hehe: diddorol iawn i weld sut mae pobl yn Korea yn dychmygu’r Cymry! Dyma cyflwyniad i fyd y gêm:



Y Mabinogi - mynd i America efo… y Koreans?

22 01 2008

Yn ôl cylchgrawn Wired, mae cwmni o Korea wedi creu MMORPG newydd (oes gair Cymraeg am Massive Multiplayer Online Role-Playing Game?) o’r enw Mabinogi. Diddorol iawn. Ceir gweld yr erthygl yma: Nexon To Release Mabinogi In America.

Y broblem yw, fel arfer, dyw’r gêm ddim mewn gwirionedd wedi ei machludo yn y chwedl Cymreig; mae’n dweud: “the mythology won’t be a direct translation of the Celtic and Welsh traditions, but will instead be a Korean interpretation of these myths“. Hahaha, dwi’n lici o hynny! Chwedlau Cymru trwy lygaid Korea….

Eniwe, es i gael cip ar beth mae Wikipedia yn dweud am y gêm. Hmmm, not so good. Brin iawn yw enwau Cymraeg; mae’r rhan fwyau’n Gwyddelig.

Felly, unwaith eto, ‘dyn ni’n gweld bod Cymru’n hollol cack-handed ar hunan-marchnata!

Ta beth - mae MMORPGs yn massive yn Asia, a Korea yw un o’r marchnadau mwyaf. Dyma cyfle gwych i’r WTB - neu beth bynnag maen nhw’n galw eu hunain y dyddiau ‘ma - i ddechrau ymgyrch marchnata gyflym er mwyn denu twristiaid o Asia draw i ‘wlad Y Mabinogi‘.

Ha, dream on, gw’boi.

[Datganiad wasg gwreiddiol yma]



Gwlad y beirdd, redux?

20 01 2008

Tip o’r het i Richard Florida, sy’ wedi dod hon at fy sylw: b-school + d-school = c-school?

Mae’r awdur, Grant McCracken, yn son am ysgolion busnes, a’r ffordd maen nhw’n colli eu perthnasedd. Hynny yw, ‘dyn nhw ddim yn darparu addysg addas i’r amgylchfyd busnes cyfoes. Mae McCracken yn ysfrifennu:

If the first business of business is innovation, the first task of management reinventing the corporation continually, the first order of problem solving broad and powerful pattern recognition, the “b-school” will not serve us. We know at a minimum that b-schools do not confer the cultural literacy, the intellectual foundations, or the conceptual tools that capitalism now prizes and requires.

Hmmm. Ydy prifysgolion Cymru yn dsygu’r sgiliau ‘ma? Dylen nhw fod, ’swn i’n dweud! Petai Cymru’n “Gwlad y Beirdd”, fel ‘dan ni’n dweud mor aml, dylai’r Cymry fod y lle i ddod er mwyn ffindio “cultural literacy, the intellectual foundations” a “conceptual tools“!



Dyma’r un gyntaf

20 01 2008

OK, tipyn o arbrawf yw hwn. Dwi ddim yn siwr os fyddai’n gallu ysgrifennu am fwy na ddiwrnod neu deu… ond, wel, cawn ni weld…